SL(5)034 – Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys ar y gofrestr o dan adran 91(1)(c) a (d) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

O dan adran 80(1) o’r Ddeddf, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal Cymdeithasol penodol a gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol. Mae adran 91(1)(a) a (b) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r gofrestr honno ddangos gwybodaeth benodedig sy’n ymwneud â phob person ar y gofrestr, ac mae paragraffau (c) a (d) yn darparu bod rhaid i’r gofrestr hefyd ddangos unrhyw gymwysterau eraill, gwybodaeth arall neu brofiad arall sy’n berthnasol i gofrestriad y person, ac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer, a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): bod yr offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae’r Rheoliadau’n cael eu gwneud o dan adrannau o Ddeddf 2016 sydd ddim mewn grym eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym erbyn 3 Ebrill 2017 (hynny yw, y dyddiad y mae’r Rheoliadau’n dod i rym). Er nad yw’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud y Rheoliadau trwy ddibynnu ar adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 sydd yn galluogi rhai pwerau i gael eu gweithredu cyn i’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 ddod i rym.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Tachwedd 2016